O Frodyr, dihunwch,
a cherddwch ymlaen;
Mae'r golofn yn cychwyn
yn niwl ac yn dân;
Trwy ganol anialwch,
tywyllwch a phoen,
I fyned i Ganaan
cawn nerth gan yr Oen.
Mae baner Calfaria
yn uchel ei bri;
Mae lluoedd y Brenin
yn cychwyn yn llu:
Fe syrth y gelynion
o flaen y rhai hyn,
Yn rhinwedd y goncwest
r Galfari fryn.
Thomas Phillips 1772-1842
Tonau [11.11.11.11]: |
O Brothers, awake!
and walk forward;
The pillar is setting out
as fog and as fire;
Through the middle of a desert,
darkness and pain,
To go to Canaan
we will get strength from the Lamb.
The banner of Calvary is
of high renown;
The hosts of the King re
setting out as a host:
The enemies shall fall
before these,
In the merit of the conquest
on Calvary hill.
tr. 2025 Richard B Gillion
|
|